Bydd cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol yn derbyn iawndal o £500,000, a £400,000 o gostau cyfreithiol, gan yr Heddlu Metropolitan yn sgil ymchwiliad diffrwyth i ffug honiadau o bedoffilia.
Cafodd cyrch ei gynnal ar dŷ Harvey Proctor wedi i ŵr o’r enw Carl Beech honni ei fod ynghlwm â rhwydwaith o bedoffeiliaid.
Dechreuodd ymgyrch yr heddlu – Ymgyrch Midland – yn 2014, ac mi arweiniodd hefyd at gyrchoedd ar dŷ’r Arglwydd Bramall, cyn-filwr a oroesodd D-Day; a thŷ Arglwydd Leon Brittan.
Roedd Carl Beech wedi honni ei fod yntau – a bechgyn eraill – wedi cael eu treisio a’u harteithio yn yr 1970au ac 1980au gan grŵp o wleidyddion amlwg a oedd hefyd yn bedoffeiliaid.
Bellach mae wedi cael ei garcharu am 18 mlynedd ar ôl cael ei farnu’n euog o wyrdroi cwrs cyfiawnder, ac un cyhuddiad o dwyll.
Bydd Harvey Proctor, 72, hefyd yn derbyn £400,000 tuag at ei gostau cyfreithiol.
Scotland Yard
Cafodd yr Heddlu Metropolitan eu beirniadu am Ymgyrch Midland, a daeth adolygiad annibynnol i’r cansgliad y dylai’r ymchwiliad fod wedi dod i ben yn gynt.
Mae Harvey Proctor wedi cwyno am bump o gyn-swyddogion heddlu’r Metropolitan, ac mae Scotland Yard wrthi’n ystyried y cwynion.