Yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd oedd ail ardal fwyaf gwlyb gwledydd Prydain ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 26).

Cwympodd 30.6mm (1.2 modfedd) o law o fewn cyfnod o 24 awr rhwng 6 o’r gloch fore ddoe a’r un amser fore heddiw – sy’n cyfateb i un rhan o bump o gwymp glaw cyfartalog yr ardal ar gyfer mis Tachwedd.

Dim ond ardal Wattisham ger Stowmarket yn Suffolk gafodd fwy o law (32.2mm neu 1.27 modfedd) yn yr un cyfnod, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Mae rhybudd melyn yn ei le yn y de tan 12 o’r gloch heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 27).

Serch hynny, dydy’r ffigurau yng Nghymru ddim yn anarferol oherwydd mai 162mm yw’r cyfanswm cyfartalog ar gyfer y mis.