Tlodi plant yn cynyddu os caiff y Ceidwadwyr eu hail-ethol, yn ôl melin drafod

Byddai tlodi plant yn parhau i gynyddu o dan arweiniant y Blaid Geidwadol, yn ôl adroddiad gan y felin drafod Resolution Foundation.

Dywed yr adroddiad nad yw maniffesto Etholiad Cyffredinol 2019 y Ceidwadwyr yn gwneud unrhyw newidiadau i’r polisi sydd eisoes yn bodoli.

“O ganlyniad i hyn, o dan gynlluniau’r Ceidwadwyr gallai tlodi plant gyrraedd ei lefel uchaf mewn 60 mlynedd sef 34%,” meddai’r adroddiad.

Dywed yr adroddiad y byddai addewid maniffesto’r Blaid Lafur i wario £9 biliwn yn ychwanegol ar nawdd cymdeithasol yn golygu 550,000 yn llai o blant yn byw mewn tlodi o’i gymharu â chynlluniau’r Ceidwadwyr.