Fe ddaeth i’r amlwg fod tywydd gwael ar ddiwedd yr wythnos wedi costio’n ddrud i’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst, wrth i golled ariannol o £158,982 gael ei chyhoeddi.
Yn ôl y trefnwyr, cau Maes B a’r maes pebyll a’r costau yn sgil hynny oedd yn bennaf gyfrifol am y golled sylweddol i’r wyl. Cafodd pawb a oedd wedi prynu tocyn am y penwythnos wneud cais am daliad, a chafodd y bandiau eu talu i gyd.
Er gwaethaf y colledion ariannol, mae’r trefnwyr yn disgrifio’r Eisteddfod eleni fel un hynod lwyddiannus gyda niferoedd “ardderchog” yn cystadlu a’r Pafiliwn yn llawn am ran helaeth o’r wythnos.
“Mae’n bwysig nad yw llwyddiant Eisteddfod Sir Conwy’n mynd yn angof oherwydd y tywydd gwael ar ddiwedd ar yr wythnos,” meddai Llywydd Llys yr Eisteddfod a Chadeirydd y Bwrdd Rheoli, Ashok Ahir.
“Ond roedd rhagolygon y tywydd ddiwedd yr wythnos yn wirioneddol enbyd, a doedd dim dewis arall ond canslo Maes B. Dyma, yn ei hanfod, sy’n gyfrifol am ran helaeth y diffyg yn y cyfanswm ariannol
“Wrth gwrs, all gŵyl fel yr Eisteddfod ddim fforddio gorfod wynebu colled fel hyn, ac felly, ein blaenoriaeth gorfforaethol dros y blynyddoedd nesaf fydd sicrhau ein bod yn codi arian er mwyn rhoi hwb i’n cronfeydd wrth gefn yn dilyn hyn.
“Mae’n bwysig ein bod yn atgoffa pawb na fydd y golled hon yn cael ei chario drosodd i Eisteddfod Ceredigion na phrifwyl Llŷn ac Eifionydd. Bydd ein cronfeydd canolog yn ysgwyddo’r baich, heb ddisgwyl i eisteddfodau’r dyfodol dalu am effaith tywydd gwael Sir Conwy.”
Diolch i bobl leol
Mae Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Sir Conwy, Trystan Lewis, wedi talu teyrnged i holl waith trigolion lleol, a gododd bron i £400,000 i’r Gronfa Leol.
“Alla i ddim diolch digon i bobl Sir Conwy am eu gwaith, eu brwdfrydedd a’u cyfeillgarwch dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai.
“Doedd dim byd yn ormod o drafferth. Roedd hi’n fraint aruthrol arwain tîm a weithiodd mor ddygn er mwyn sicrhau llwyddiant yr Eisteddfod.
“O greu’r pwyllgorau cychwynnol tan y shifft olaf yn gwirfoddoli ar y Maes ynghanol y glaw, mae fy niolch i a’r Eisteddfod ei hun yn enfawr i bob un person a fu’n rhan o’r gwaith. Chi oedd gwraidd llwyddiant ein Heisteddfod ni, ac ni fydd y newyddion heddiw’n pylu dim ar y gwaith a’r llwyddiant lleol a fu’n gymaint rhan o’r ŵyl.”