Wedi i’r Blaid Lafur gyhoeddi ei bod yn bwriadu buddsoddi £100 biliwn yn yr Alban tros y ddegawd i ddod, petae yn ennill yr etholiad, mae rhai wedi gofyn: ‘Beth am Gymru?’

Mae llefarydd wedi dweud wrth golwg360 fod gan y Blaid Lafur ragor i ddatgelu am eu cynlluniau gwario yng Nghymru.

Mae maniffesto Llafur yn  nodi y byddai’r Alban yn derbyn llu o fuddsoddiadau a £20 biliwn yn rhagor o bwerau benthyca, ond prin yw’r manylion am arian i Gymru.

Bellach mae golwg360 wedi derbyn cadarnhad bod rhagor o gyhoeddiadau ar y gweill i Gymru, a bod buddsoddiadau’r ddwy wlad yn mynd i gael eu cyhoeddi mewn ffyrdd gwahanol.

£3.4 biliwn i Gymru

Hyd yma mae Llafur wedi cadarnhau y bydden nhw yn rhoi £3.4bn yn ychwanegol pob blwyddyn i Lywodraeth Cymru ei wario.

Bydd y blaid yn cyhoeddi’r symiau y gallai Cymru dderbyn trwy eu ‘Banc Buddsoddi Cenedlaethol’ a’u ‘Cronfa Trawsnewid Gwyrdd’ yn y dyfodol.

Bydd Llafur Cymru yn lansio eu maniffesto ddydd Llun (Tachwedd 25) yn Wrecsam, ond fyddan nhw dim ond yn cyhoeddi sut y byddan nhw’n gwario’r arian ychwanegol.

A does dim disgwyl cyhoeddiadau am weddill y buddsoddiadau yn y lansiad.