Mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, wedi cystwyo “record ofnadwy” Vaughan Gething yn Weinidog Iechyd.
Fe wnaeth e godi perfformiad y Llywodraeth Lafur ym maes iechyd yn ystod Sesiwn Holi’r Prif Weinidog ddoe (dydd Mawrth, Tachwedd 19), yn dilyn adroddiad damniol am Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Cafodd gwasanaethau mamolaeth eu rhoi mewn mesurau arbennig ym mis Ebrill eleni, ac mae’r adroddiad yn rhestru ffaeleddau wrth amlygu problemau, ‘normaleiddio risgiau’, adrodd gwael, diffyg cyfathrebu, a phryder am arferion.
Yn ogystal â hyn, nododd Arweinydd yr Wrthblaid fod amseroedd aros Damweiniau ac Achosion Brys ar eu huchaf erioed ac nid yw targedau amseroedd aros canser wedi eu bodloni ers 11 o flynyddoedd.
“Rydych chi wedi llywyddu dros ddiwylliant o ofn a beio,” meddai Paul Davies.
Fe ofynnodd i’r Gweinidog Iechyd roi cadarnhad i staff y Gwasanaeth Iechyd y byddai’n gwrando ar eu gofidion ac yn gweithredu arnyn nhw, a’i annog “i gymryd cyfrifoldeb ac ystyried eich safle, fel y gall pobl Cymru fod yn hyderus y bydd y Llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb pan fydd methiannau yn y system”.