Mae’r Blaid Geidwadol wedi cael eu beirniadu ar ôl i un o’u cyfrifon Trydar swyddogol gael ei newid i wasanaeth gwirio ffeithiau yn ystod dadl deledu neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 19).
Fe ddaeth i’r amlwg fod enw’r cyfri wedi cael ei newid i ‘factcheckuk’ wrth i’r ddadl rhwng Boris Johnson a Jeremy Corbyn gael ei chynnal ar ITV.
“Mae’n anaddas ac yn gamarweiniol i swyddfa’r wasg y Ceidwadwyr newid enw eu cyfrif Twitter i ‘factcheckuk’ yn ystod y ddadl hon,” meddai elusen Full Fact.
Ac mae Trydar wedi rhybuddio y bydd unrhyw ymgais i “gamarwain pobl” yn ystod yr etholiad yn arwain at weithredu.
“Mae Twitter yn barod i gynnal dadleuon iach drwy gydol yr etholiad cyffredinol,” meddai llefarydd ar ran y wefan gymdeithasol.
“Mae gennym reolau rhyngwladol sy’n atal ymddygiad all gamarwain pobl, gan gynnwys y sawl sydd â chyfrifon wedi eu gwirio.”