Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi pecyn o ddiwygiadau i lywodraeth leol, sy’n cynnwys rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio mewn etholiadau lleol.

Fe fydd y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad heddiw (dydd Llun, Tachwedd 18) gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y Bil “yn bywiogi democratiaeth leol yng Nghymru, gan ei gwneud yn haws i bobl weld a dylanwadu ar waith y rhai sy’n eu cynrychioli a bod yn rhan o’r gwaith hwnnw, ac ehangu’r ystod o bobl sy’n gallu pleidleisio a sefyll i’w hethol.”

Mae cynigion i newid y gwaith i’w gwneud yn bosibl i bobl ifanc 16 a 17 oed bleidleisio yn etholiadau cynghorau lleol yn rhan o’r newid mwyaf yn system etholiadol Cymru ers 50 o flynyddoedd – pan gafodd yr oedran pleidleisio ei ostwng i 18 yn ystod y 1970au.

Yn ôl Llywodraeth Cymru fe fydd y Bil hefyd yn “grymuso” 22 prif gyngor Cymru, gan roi iddyn nhw “yr arfau a’r pwerau y maen nhw wedi gofyn amdanyn nhw i fod yn uchelgeisiol ac yn greadigol, ac i weithio’n hyblyg i ddarparu gwasanaethau gwell i bobl yng Nghymru.”

Bydd y Bil hefyd yn cefnogi cynghorau i gydweithio ar draws ffiniau daearyddol a gweinyddol.

“Diwygiadau pwysig”

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James: “Rwy’n credu mewn llywodraeth leol gref. Rydyn ni am iddi ffynnu, ac i bobl Cymru deimlo eu bod yn cael eu cynrychioli a’u cefnogi’n dda gan wasanaethau cyhoeddus modern, ac rydyn ni am i’r berthynas rhwng llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru fod yn aeddfed a chanolbwyntio ar ein hagenda gyffredin –  sef darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell i bawb, gan helpu pobl y mae arnynt angen cymorth, pan fo’i angen fwyaf.”

Ychwanegodd: “Felly, ugain mlynedd ar ôl datganoli, mae hwn yn Fil Llywodraeth Leol o bwys sy’n adlewyrchu hynt datganoli ac fe fydd yn darparu pecyn o ddiwygiadau pwysig, gan gynnwys diwygio etholiadau llywodraeth leol.

“Mae’n anelu at roi ffyrdd newydd i lywodraeth leol o gefnogi a gwasanaethu eu cymunedau ar yr adeg heriol hon, wrth ailfywiogi democratiaeth leol yma yng Nghymru.”