Mae’r Llys Troseddau Rhyngwladol (ICC) wedi dweud y gallai gynnal ymchwiliad i’r fyddin Brydeinig am y tro cyntaf yn dilyn honiadau bod troseddau rhyfel wedi’u cyflawni, yn ôl adroddiadau.
Mae rhaglen Panorama y BBC yn honni bod achosion o ladd dinasyddion yn Affganistan ac Irac wedi cael eu celu gan y wladwriaeth.
Fe ymatebodd y Weinyddiaeth Amddiffyn drwy ddweud nad oes sail i’r honiadau.
Mae dogfennau sydd wedi cael eu datgelu yn cynnwys tystiolaeth honedig bod lluoedd Prydain wedi’u cysylltu ag achosion o ladd plant ac arteithio dinasyddion.
Mae ymchwiliad diweddar gan y BBC/Sunday Times yn honni eu bod wedi cael tystiolaeth newydd gan y Tim Honiadau Hanesyddol Irac (IHAT) a oedd wedi bod yn ymchwilio i droseddau rhyfel honedig gan filwyr o wledydd Prydain yn Irac, ac Ymchwiliad Northmoor, oedd yn ymchwilio i droseddau rhyfel honedig yn Affganistan.
Roedd y Llywodraeth wedi dod a gwaith IHAT ac Ymchwiliad Northmoor i ben yn 2017. Roedd yn dilyn honiadau bod y cyfreithiwr Phil Shiner wedi talu pobl yn Irac i ddod o hyd i gleientiaid. Roedd o wedi mynd a mwy na 1,000 o achosion at IHAT. Ond mae rhai o gyn-ymchwilwyr IHAT ac Ymchwiliad Northmoor yn honni bod gweithredoedd Phil Shiner wedi cael eu defnyddio fel esgus i gau’r ymchwiliadau.
Nid oes yr un achos sydd wedi’i ymchwilio gan IHAT nag Ymchwiliad Northmoor wedi arwain at erlyn unrhyw un.
Dywedodd y Llys Troseddau Rhyngwladol (ICC) eu bod nhw’n ystyried yr honiadau “yn ddifrifol iawn”, yn ôl y BBC.
“Mae’r ICC wedi dweud y bydd yn asesu canfyddiadau’r BBC yn annibynnol ac yn dechrau achos os yw’n credu bod y Llywodraeth yn ceisio atal milwyr rhag cael eu herlyn,” meddai’r BBC ddydd Llun (Tachwedd 18).
Fe fydd y rhaglen Panorama: War Crimes Scandal Exposed yn cael ei darlledu ar BBC Un nos Lun am 9yh.