Mae’r gwrthdaro rhwng yr heddlu a phrotestwyr yn Hong Kong wedi dwysau dros nos.

Roedd yr heddlu wedi mynd mewn i gampws prifysgol oedd wedi’i hawlio gan y protestwyr gan danio nwy dagrau a chwistrellu dŵr.

Roedd y protestwyr wedi cau eu hunain yn y brifysgol gan ymladd yn ôl efo bomiau petrol a bwa saeth.

Wrth i’r heddlu amgylchynu’r campws roedd rhai o’r protestwyr wedi ceisio symud y tu mewn i’r brifysgol. Roedd eraill wedi cynnau tan ar y pontydd yn arwain at y brifysgol.

Mae’r ymgyrchwyr dros ddemocratiaeth yn ceisio cadw’r pwysau ar arweinwyr Hong Kong, sydd wedi gwrthod y rhan fwyaf o’u gorchmynion hyd yn hyn.