Mae elusen Trefnu Cymunedol Cymru yn galw am gynnig mwy o brydau bwyd rhad ac am ddim i’r plant mwyaf tlawd mewn ysgolion.
Dywed yr elusen fod plant yn cyrraedd yr ysgol heb fod wedi bwyta a’u bod yn rhy lwglyd i ddysgu ac yn gorfod dewis rhwng brecwast a chinio.
Mewn rhai achosion, mae’n rhaid i athrawon brynu bwyd i’r disgyblion mwyaf tlawd gan eu bod nhw’n gwario’u holl lwfans ar frecwast wrth gyrraedd yr ysgol ac yn methu fforddio cinio.
Mae’r elusen, sy’n gymysgedd o athrawon a chynorthwywyr dysgu, yn lansio ymgyrch ‘Dysgu Nid Llwgu’ heddiw yn Ysgol y Grango yn Wrecsam.
Maen nhw’n dweud nad yw’r drefn bresennol yn diwallu anghenion plant.
Maen nhw’n galw ar Lywodraeth Cymru i godi’r lwfans prydau bwyd i 80c, sy’n golygu y gallai miloedd o’r plant mwyaf tlawd gael brecwast a chinio yn yr ysgol.
Ymchwil gan yr elusen
Mae ymchwil gan yr elusen yn y gogledd-ddwyrain yn dangos bod dros hanner y staff yno yn prynu bwyd rywbryd i’r plant mwyaf tlawd, a rhai yn gwneud hynny bob wythnos.
Mae 18% o’r plant sy’n derbyn prydau bwyd am ddim ac sydd heb fwyta brecwast cyn mynd i’r ysgol yn nodi diffyg amser neu ddim yn hoffi brecwast fel rheswm am ddod i’r ysgol heb fod wedi bwyta.
Cymru yw’r unig un o wledydd Prydain lle mae tlodi plant yn cynyddu ac mae’r elusen yn dweud bod caredigrwydd staff yn celu pa mor ddifrifol yw’r sefyllfa.
Mewn arolwg gan yr elusen, roedd nifer sylweddol o blant yn dweud eu bod nhw’n mynd i’r ysgol heb fod wedi cael brecwast.
Roedd hyn, meddai’r plant hynny, yn eu gwneud nhw’n llwglyd yn yr ysgol, oedd yn effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio mewn gwersi.