“Annibyniaeth, annibyniaeth, annibyniaeth” yw nod plaid Gwlad wrth sefyll yn yr etholiad cyffredinol, yn ôl Gwyn Wigley Evans, ei harweinydd.
Dyma’r tro cyntaf i’r blaid gymharol newydd sefyll mewn etholiad, a daw’r penderfyniad yn sgil bargen etholiadol rhwng Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd i gefnogi ei gilydd fel pleidiau sy’n gwrthwynebu Brexit.
Dim ond yn y Cynulliad roedden nhw’n bwriadu sefyll, meddai Gwyn Wigley Evans, ond mae absenoldeb Plaid Cymru o’r papurau pleidleisio ym Mro Morgannwg; Brycheiniog a Maesyfed; Canol Caerdydd a Maldwyn yn cynnig cyfle.
“Tan ddoth y wybodaeth allan fod Plaid ddim yn sefyll mewn pedair sedd, oeddan ni ddim wedi planio, a dydi o ddim yn rhan o’n cynlluniau ni o gwbl, i sefyll i fynd i San Steffan,” meddai wrth golwg360.
“A ’dan ni wedi deud hynna’n gyhoeddus. Dim ond yn y Cynulliad [roedden nhw’n bwriadu sefyll].
“Ond gan bo [Plaid Cymru] ddim yn sefyll yn y pedair sedd yna, does ’na neb yn sefyll i gael pleidlais dros annibyniaeth, maen nhw i gyd yn unoliaethwyr.
“Rydan ni’n rhoi’r cyfle i bobol sydd eisiau dangos bo nhw dros annibyniaeth i Gymru i roi pleidlais fewn, a does ’na ddim cyfle fel arall.”
Yr etholaethau a’r ymgeiswyr
Hyd yn hyn, dim ond Siân Caiach (Canol Caerdydd) a Gwyn Wigley Evans (Maldwyn) sydd wedi cyflwyno’u henwau, a bydd cadarnhad erbyn 4 o’r gloch ddydd Iau (Tachwedd 14) pwy fydd yn sefyll ym Mro Morgannwg a Brycheiniog a Maesyfed.
Yn sgil ymddiswyddiad Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru, mae’n debygol y bydd cryn sylw yn ystod yr ymgyrch i etholaeth Bro Morgannwg, lle mae’n sefyll fel ymgeisydd Ceidwadol eto.
Ac yn ôl Gwyn Wigley Evans, mae hynny’n cynnig cyfle da i Gwlad.
“Bydd yna lot o gyhoeddusrwydd, a bydd hynny’n beth da iawn i ni. Mae’n hollbwysig fod pobol yn sefyll ac yn cael y cyfle i sefyll dros Gymru yn lle… ydewis fasa, yn Sir Drefaldwyn, y Ceidwadwyr neu’r Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur.
“Maen nhw i gyd yn edrych tuag at Lundain.”
Pwy yw Gwlad?
Yn ôl Gwyn Wigley Evans, mae aelodau Gwlad wedi bod yn aelodau Plaid Cymru yn y gorffennol. Ond yn wahanol i’r blaid honno, maen nhw’n canolbwyntio ar fater annibyniaeth ac unrhyw bolisïau cysylltiedig ac mae’r arweinydd yn cydnabod y gallai’r blaid gael ei gweld fel ‘plaid un polisi’.
“Mae ’na elfen o wir yn hynna,” meddai. “Tri phwynt sydd gynnon ni – annibyniaeth, annibyniaeth, annibyniaeth.
“Sut rydan ni’n ei wneud o a sut bolisïau, sy’n gwestiwn gwahanol. Ond dydan ni ddim ond yn edrych ar annibyniaeth a Chymru. Dyna’r rheswm i ni fod mewn bodolaeth. Y diwrnod mae Cymru’n cael annibyniaeth, does yna ddim angen Gwlad.
“Rydan ni i gyd wedi bod yn rhan o Blaid Cymru ar ryw adeg neu’i gilydd, a doedd annibyniaeth ddim yn enw oedd yn cael ei ddefnyddio pan oedd Dafydd Wigley yn rhedeg Plaid Cymru.”
Mwy o alw am annibyniaeth
Yn ôl Gwyn Wigley Evans, mae gan y blaid gyfle i adeiladu yn yr etholiad hwn ar y gwaith sydd wedi’i wneud gan fudiadau annibyniaeth fel Yes Cymru.
“Mae’r tyfiant wedi bod yn gryf iawn. Mae mudiadau fel Yes Cymru ac yn y blaen yn cael lot o sylw, lot o aelodau ac mae [gorymdeithiau] Merthyr, Caerdydd a Chaernarfon wedi dangos bod ’na lot o bobol yn fodlon dod allan. Mae yna gyffro.”