Mae’r band Cymraeg, SYBS, wedi cael gwahoddiad i berfformio yng ngŵyl gerddoriaeth Suns Ewrope yn yr Eidal.
Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yn ardal Friuli-Venezia Giulia yng ngogledd-ddwyrain y wlad, yn agor nos Wener (Tachwedd 15) ac yn para tan nos Sadwrn, Tachwedd 30.
“Ddaru nhw gysylltu gyda’r label ni arno, Libertino, a gofyn a oedden ni mhoen chwarae gig yn yr ŵyl, ac roedden ni fel obviously,” meddai Osian Llyr, prif leisydd SYBS, wrth golwg360.
“Rhyw fath o gystadleuaeth rhwng bandiau o wahanol wledydd ’da ni’n chwarae ynddo, felly ni ddim yn siŵr iawn beth i ddisgwyl, ella bydd e fel indie eurovision.”
Braint cynrychioli cerddoriaeth Gymraeg
SYBS yw’r unig fand fydd yn cynrychioli Cymru yn Suns Europe, rhywbeth mae Osian Llyr yn feddwl sy’n “swreal”.
“Mae e’n eithaf surreal, does neb yn gwybod beth i ddisgwyl,” meddai Osian Llyr, “ac mae e’n od fod rhywbeth sydd mor bell i ffwrdd yn ymwybodol o’r sin Gymraeg
“Bydd e’n fraint cynrychioli cerddoriaeth Gymraeg a label Libertino.”