Mae’r BBC yn dweud mai “camgymeriad cynhyrchu” oedd yn gyfrifol am ddangos hen fideo o Boris Johnson yn gosod torch ar gofeb ryfel yn hytrach na deunydd o seremoni Sul y Cofio ddoe (dydd Sul, Tachwedd 10).
Cafodd prif weinidog Prydain ei feirniadu ar ôl y seremoni yn Llundain ddoe, ar ôl gosod y dorch â’i ben i waered – a dod yn agos at ollwng y dorch yn gyfangwbl.
Wrth adrodd am Sul y Cofio fore heddiw (dydd Llun, Tachwedd 11), defnyddiodd rhaglen BBC Breakfast ddeunydd fideo o 2016 gyda’r stori.
Sylwodd nifer o bobol ar y camgymeriad, ac roedd neges yn cael ei hail-drydar yn gofyn i’r BBC am eglurhad.
“A allech chi egluro, os gwelwch yn dda, y penderfyniad golygyddol i ddefnyddio’r deunydd hwn o Boris Johnson yn gosod torch yn 2016 ar y bwletin newyddion fore heddiw yn hytrach na deunydd o’r gwasanaeth ddoe?” meddai’r neges ar Twitter.
Eglurhad
Mae’r BBC wedi ymddiheuro am y camgymeriad.
“Fore heddiw ar y rhaglen, fe wnaethon ni ddefnyddio’r deunydd anghywir o wasanaeth Sul y Cofio na chafodd ei ffilmio ddoe,” meddai’r Gorfforaeth mewn datganiad.
“Camgymeriad cynhyrchu oedd hwn, ac rydym yn ymddiheuro am y gwall.”