Mae’r heddlu wedi dod o hyd i gorff dyn mewn camlas yn ardal Y Betws yng Ngwent.
Cafodd Heddlu Gwent wybod gan aelod o’r cyhoedd fod y corff yn y gamlas.
Mae’r heddlu wedi cadarnhau ei farwolaeth, gan ddweud bod ei deulu wedi cael gwybod.
Dydyn nhw ddim yn trin ei farwolaeth fel un amheus, ac mae ymchwiliad ar y gweill.