Mae’r Arglwydd Brian Mawhinney, cyn-gadeirydd y Blaid Geidwadol a’r Gynghrair Bêl-droed, wedi marw’n 79 oed.

Roedd yn gadeirydd y Blaid Geidwadol rhwng 1995 a 1997 pan oedd John Major yn brif weinidog.

Cafodd ei ethol yn aelod seneddol Peterborough yn 1979, ac fe aeth yn ei flaen i gynrychioli etholaeth Gogledd-orllewin Caergrawnt cyn ymddeol yn 2005.

Roedd yn aelod o’r Cabinet rhwng 1994 a 1997, yn gyfrifol am iechyd a thrafnidiaeth.

Cafodd ei urddo’n farchog yn 1997 ac fe aeth i Dŷ’r Arglwyddi yn 2005.

Roedd yn gadeirydd ar y Gynghrair Bêl-droed rhwng 2003 a 2010, lle’r oedd yn gyfrifol am gyflwyno prawf i ystyried pa mor addas yw unigolion i fod yn gyfarwyddwyr ar glybiau, ac fe sicrhaodd e fod clybiau’n cyhoeddi faint o arian sy’n cael ei wario ar ffioedd asiantiaid.