Dyw pleidwyr Sir Drefaldwyn ddim yn debygol o gefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol, yn ôl cynghorydd o Bowys.

Er mai aelod o grŵp annibynnol y Cyngor yw Myfanwy Alexander, mae’n dweud ei bod wedi cefnogi’r Blaid ers “blynyddoedd maith”, ac mae ganddi deimladau cryf am ei dêl ddiweddar.

Cytundeb yw hyn â phleidiau eraill sydd am aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’n golygu y bydd Plaid Cymru’n camu o’r neilltu yn Sir Drefaldwyn.

Mae etholwyr yn cael ei hannog i gefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol yno, ac mae cyn-ymgeisydd Plaid Cymru, Elwyn Vaughan, wedi dweud galw’r cam yn “ddealladwy”.

Myfanwy Alexander a’r farn leol

Dyw pleidwyr yr etholaeth ddim o’r un farn, yn ôl Myfanwy Alexander.

“O’r bobol dw i wedi siarad efo [sy’n cefnogi’r] Blaid does dim un ohonyn nhw’n fodlon cefnogi’r Democratiaid Rhyddfrydol,” meddai, “ac mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw sy’n mynd i bleidleisio yn mynd i gefnogi’r boi lleol sy’n Dori…

“Mae hanner dwsin o bobol wedi dod ata’ i a dweud os dydy Plaid ddim yn fodlon cynrychioli barnau pobol Sir Drefaldwyn bydd yn rhaid i ni ofyn i rywun arall wneud.”

Cncio drysau

Elwyn Vaughan oedd fod i sefyll tros y sedd i Blaid Cymru, ond gofynnodd y Pwyllgor Gwaith iddo dros y penwythnos i beidio â gwneud hynny.

Doedd “neb” yn yr etholaeth eisiau iddo wneud hynny, meddai Myfanwy Alexander, ac mae’n awgrymu bod y penderfyniad yn mynd i gael effaith tymor hir ar yr ardal.

“Dw i’n teimlo bod yr holl waith caled – nid jest Elwyn ei hunan, ond y tîm o bobol o’i gwmpas – wedi cael eu [tanseilio],” meddai.

“Sut mae Plaid yn mynd i ofyn, yn y dyfodol, i bobol fynd allan a chnocio drysau? Maen nhw wedi bod allan ers dau fis – tair mis o bosib – yn nocio drysau.”

Roedd sïon ar led y byddai Myfanwy Alexander yn sefyll yn ymgeisydd annibynnol i’r etholaeth pe bai’r fath gytundeb yn dod i rym, ond mae hi’n wfftio hynny.