Bydd hanner miliwn o bobol, gan gynnwys 70,000 o blant, ddim yn cael parhau i fyw yn y Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, yn ôl ffigyrau swyddogol.

Roedd 1.8 miliwn o bobol wedi ceisio am Gynllun Setliad yr Undeb Ewropeaidd hyd at fis Medi, yn ôl y Swyddfa Gartref.

Mae ychydig o dan filiwn wedi derbyn statws parhaol – sy’n rhoi caniatâd iddynt fyw a gweithio yn y Deyrnas Unedig pan fydd yr hawl i symud yn rhydd yn dod i ben.

Mae gweinidogion yn mynnu fod y cynllun y gweithio ac ar amser, er bod ymgyrchwyr yn honni fod oddeutu dwy filiwn o bobl dal heb geisio am statws parhaol ac nad yw pawb yn derbyn y statws maen nhw’n ei haeddu.