Mae’r pwysau’n cynyddu ar Ysgrifennydd Cymru i ymddiswyddo, wedi iddi ddod yn amlwg ei fod yn ymwybodol o ran ymgeisydd yn dymchwel achos o dreisio.
Mae dynes sy’n honni i Ross England, cyn-ymgynghorydd Alun Cairns, ac a oedd am sefyll yn ymgeisydd seneddol i’r blsid Geidwadol, ‘ddymchwel’ ei hachos.
Pan ofynnwyd iddi a ddylai Alun Cairns sefyll i lawr, atebodd “yn bendant”.
“Pe bai wedi dod allan a chondemio Ross England yn y lle cyntaf, ni fyddai yn y sefyllfa yma,” meddai wedyn.
Mae’r ymateb gan y cyhoedd wedi bod yn llym hefyd gyda nifer fawr o bobol yn galw arno i sefyll i lawr ar y cyfryngau cymdeithasol.