Mae casglwyr madarch masnachol yn euog o hel popeth o goedwig hynafol, a hynny er mwyn werthu’r cynnyrch ymlaen i fwytai a marchndoedd eraill.
Corfforaeth Dinas Llundain sy’n lleisio pryder fod bywyd gwyllt yn diodde’ wrth i’r madarch gwyllt gael eu gor-gasglu un Epping Fforest.
Mae’r goedwig wedi.cael ei thargedu, meddai’r corff, gan adael pryfed ac anifeiliaid fel ceirw heb ffynhonnell fwyd werthfawr.
Mae nifer o goed hynafol sy’n dibynnu ar ffwngi i warchod eu gwreiddiau.
Corfforaeth.Fi as Llundain sydd piau ac sy’n rheoli coedwig Epping. Maen nhw’n ystyried dirwyo casglwyr sy’n hel gormod o fadarch.
Ers 2014, mae 18 o bobol wedi cael eu herlyn am gasglu bwyd gwyllt.