Mae Mark Drakeford yn dweud mai “aros yw’r ateb cywir i Gymru” wrth drafod Brexit.

Mae prif weinidog Cymru, ynghyd â Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban, wedi mynegi eu gwrthwynebiad i’r Mesur Brexit, gan ddweud bod angen craffu’n ofalus ar y ddeddfwriaeth a pheidio â’i rhuthro drwy’r Senedd.

Mae’r ddau yn annog aelodau seneddol a Llywodraeth Prydain i sicrhau estyniad i Erthygl 50, sef y broses sy’n cychwyn yr ymadawiad â’r Undeb Ewropeaidd.

Bu’n rhaid i Boris Johnson roi ei gynlluniau i adael erbyn Hydref 31 i’r naill ochr ar ôl i aelodau seneddol bleidleisio o 322 i 308 o blaid gwrthod y cynllun i wthio deddfwriaeth yn rhoi sêl bendith i’w fesur fynd drwy’r Senedd mewn tridiau.

Bydd Mark Drakeford a Nicola Sturgeon yn cynnal cynhadledd i’r wasg ar y cyd heddiw, lle mae disgwyl i brif weinidog yr Alban ddweud ei bod yn “annerbyniol” ceisio rhuthro deddfwriaeth drwy’r senedd heb roi cyfle i graffu arni.

 

Bydd hi’n dweud ei bod hi’n hollbwysig hefyd fod barn llywodraethau Cymru a’r Alban “yn cael eu hystyried”.

 

Mae hi a Mark Drakeford eisoes wedi anfon llythyr at Boris Johnson a Donald Tusk, llywydd Cyngor Ewrop, yn galw am estyniad er mwyn cael y cyfle i graffu ar y bil.

 

Mae disgwyl iddyn nhw ddweud y byddai Brexit yn niweidio datganoli ac yn drychinebus i economïau’r ddwy wlad.

 

Sylwadau Mark Drakeford

 

“Mae’r cytundeb hwn yn un drwg i Gymru a’r Alban,” bydd Mark Drakeford yn ei ddweud.

“Ddoe, fe gytunodd y Senedd na allwn ni roi caniatâd deddfwriaethol i’r Mesur Ymadael fel y mae wedi cael ei ddrafftio ar hyn o bryd.

“Dw i a phrif weinidog yr Alban wedi ysgrifennu ar y cyd at y prif weinidog a llywydd yr Undeb Ewropeaidd yn gofyn am estyniad fel y gall Senedd yr Alban a’r Senedd gyflawni eu dyletswydd gyfansoddiadol a chraffu’n llawn ar y Mesur Cytundeb Ymadael.

“Mae yna ffordd arall, sef refferendwm sy’n rhoi’r cyfle i bobol dderbyn bargen Johnson neu ddewis aros yn yr Undeb Ewropeaidd. 

“Rydym yn credu mai aros yw’r ateb cywir i Gymru.”