Mae Boris Johnson yn addo cynnal etholiad cyffredinol os yw penaethiaid Ewrop yn rhoi’r hawl iddo ymestyn Brexit am dri mis.

Daw’r addewid ar ôl i aelodau senedol ei atal rhag symud y Bil Ymadael trwy Dŷ’r Cyffredin cyn y dyddiad cau, Hydref 31.

Fe gollodd e’r bleidlais o 322 i 308.

Mae’n golygu y bydd hi’n anodd iddo sicrhau Brexit “doed a ddêl”, ac mae’n bosib bellach y bydd estyniad yn cael ei roi tan y flwyddyn nesaf.

Mae Donald Tusk, llywydd Cyngor Ewrop yn dweud y bydd yn argymell rhoi estyniad er mwyn osgoi Brexit heb gytundeb.

Mae lle i gredu bod prif weinidog Prydain eisoes wedi rhoi gwybod i arweinwyr gwledydd yr Undeb Ewropeaidd na fyddai’n fodlon derbyn estyniad o dri mis, ond dydy e ddim wedi wfftio’r posibilrwydd o roi sêl bendith i estyniad byr o 10 diwrnod.

Pe bai’n cael ei orfodi i dderbyn estyniad, mae Downing Street yn dweud y bydd yn galw etholiad cyffredinol.

Yn dilyn y bleidlais, mae Boris Johnson yn dweud ei fod e am ohirio’r ddeddfwriaeth tra ei fod e’n ymgynghori â phenaethiaid Ewrop ar y cam nesaf.

Fe basiodd ail ddarlleniad o’r Bil o 329 i 299, ond fe wnaeth aelodau senedol fethu â chytuno ar amserlen.

Yn ôl Deddf Benn, fe fu’n rhaid iddo fe geisio estyniad tan fis Ionawr yn dilyn diwrnod anghyffredin ddydd Sadwrn, pan ddaeth y senedd ynghyd ar ddydd Sadwrn am y tro cyntaf ers 37 o flynyddoedd.