Mae grwp hawliau dynol yn dweud fod yna dystiolaeth  o droseddau rhyfel gan filwyr Libya wrth ymladd am y brifddinas, Tripoli.

Mae Amnest Rhyngwladol yn dweud fod ymladdwyr ar y ddwy ochr wedi lladd ac anafu degau o bobol ddiniwed trwy danio’n anghyfrifol a di-feind mewn ardaloedd poblog.

Mae lluoedd sy’n ffydlon i’r swyddog milwrol, Khalifa Hifter, yn nwyrain Libya, wwdi dechrau ar ymgyrch i adfeddiannu Tripoli ers mis Ebrill eleni.

Er bod yr ymladd wedi llacio rhywfaint yn ddiweddar, mae’r ddwy ochr yn dal i danio at ei gilydd o dde’r ddinas.

Oherwydd hynny, mae tai poboo ddiniwed, ynghyd ag ysbytai, ysgolion a chanolfan i ffoaduriaid, yn cael eu taro.

Mae maes awyr Mitiga wedi’i gau oherwydd yr ymladd.