Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn croesawu canlyniad y bleidlais sy’n sicrhau na fydd modd gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb.

Yn dilyn pleidlais ar ‘welliant Letwin’ heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 19), fe fydd Brexit yn cael ei atal hyd nes bod deddfwriaeth yn ei lle sy’n atal ymadawiad heb fod cytundeb yn ei le.

Cafodd y gwelliant ei dderbyn o 322 o bleidleisiau i 306.

Bellach, mae’r gyfraith yn mynnu bod Boris Johnson, prif weinidog Prydain yn ysgrifennu at yr Undeb Ewropeaidd yn gofyn am estyniad i Erthygl 50 y tu hwnt i Hydref 31.

“Dw i wrth fy modd fod y Senedd wedi pleidleisio er mwyn atal Brexit heb gytundeb dinistriol a fyddai’n niweidiol iawn i gymunedau ledled Cymru,” meddai Jane Dodds.

“Byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn annerbyniol ac yn ddiofal.

“Mae dadansoddiad y llywodraeth ei hun yn dangos y byddai’n wael o ran swyddi, i’r amgylchedd ac i’n Gwasanaeth Iechyd.

“Mae’r bleidlais heddiw’n anfon neges glir at y prif weinidog: dydyn ni ddim eisiau gadael heb gytundeb.

“Rhaid i Mr Johnson ufuddhau i’r gyfraith a gwneud cais am estyniad i Erthygl 50.”

Prif Weinidog Cymru’n cytuno

Mae Mark Drakeford, prif weinidog Cymru, yn cytuno ar y mater ac wedi trydar ei ymateb i’r bleidlais heddiw.

Mae’n nodi ei ddymuniad am ail refferendwm, gan feirniadu effaith y fargen ar Gymru.