Mi allai’r sefyllfa wleidyddol yng Nghatalwnia “waethygu” ymhellach yn sgil carchariad naw o wleidyddion blaenllaw.
Dyna farn Siân Edwards, Uwch-ddarlithydd Astudiaethau Sbaenaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac academydd sydd wedi sgwennu tipyn am y genedl.
Dyw penderfyniad Goruchaf Lys Sbaen i garcharu’r Catalaniaid “ddim yn mynd i helpu neu ddatrys” y sefyllfa yno, meddai, ac ar y lleiaf “mae’n mynd i gadw’r broblem i fynd”.
“Yn ei araith [ar dydd Llun] mi ddywedodd Prif Weinidog Sbaen bod hyn yn gyfnod newydd ac y byddan nhw’n gallu symud ymlaen o’r achos yma,” meddai wrth golwg360.
“Ond dw i’n meddwl bod y rhan fwyaf o bobol yn meddwl na fydd hynny’n digwydd. Fe fydd protestiadau yn parhau ac fe fydd ymateb llym Sbaen yn parhau hefyd.
“Maen nhw’n barod wedi anfon mwy o heddlu i Gatalwnia. Felly dw i ddim yn meddwl bod unrhyw olwg o’r holl beth yn dod i ben. Mae’n mynd i barhau, ac o bosib gwaethygu.”
Protestiadau
Roedd y gwleidyddion wedi cyfrannu at refferendwm annibyniaeth 2017 – pleidlais a gafodd ei farnu’n anghyfreithlon – a bellach maen nhw wedi cael eu barnu’n euog o annog gwrthryfel.
13 blynedd yw hyd y ddedfryd carchar hiraf, ac yn sgil y dyfarniadau mae protestio mawr wedi cael ei danio yng Nghatalwnia gan achosi trafferthion trafnidiaeth yno.
Yn dilyn tridiau o brotestio tanllyd mae Quim Torra, Llywydd Llywodraeth Catalwnia, wedi galw ar Gatalaniaid i ymatal rhag trais.
Ymateb Ewrop
Roedd pobol Catalwnia wedi disgwyl dyfarniadau llym dydd Llun gan fod manylion wedi eu rhyddhau i’r wasg o flaen llaw, yn ôl yr academydd.
Ond mater sydd wedi bod yn syndod i rai, ac sydd wedi siomi cefnogwyr y carcharorion, meddai, yw’r diffyg ymateb gan Ewrop.
“Maen nhw’n teimlo ei bod hi’n rhyfedd eu bod nhw ddim wedi cael cefnogaeth o’r sefydliadau yn Ewrop,” meddai.
“Mae hwn nid jest i’r ddedfryd ond mae hwn wedi bod yn rhywbeth maen nhw wedi ei ystyried ers y refferendwm ddwy flynedd yn ôl – y diffyg ymateb o sefydliadau Ewrop.
“Mae ymateb wedi bod gan unigolion – gwleidyddion Ewropeaidd unigol a grwpiau – ond nid ar lefel sefydliadol. Mae hwn yn rhywbeth sydd wedi bod yn amlwg iddyn nhw ers y refferendwm.”