Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod ei phlaid yn dal ei thir ar fater o ail refferendwm, ac o’r farn y byddai bargen Brexit Boris Johnson yn “wael” i wledydd Prydain.
Daw sylwadau Jo Swinson yn dilyn cadarnhad bod y Prif Weinidog wedi llwyddo i daro bargen gyda thrafodwyr yr Undeb Ewropeaidd ynglŷn â Brexit. Mae’n cael ei disgrifio gan Boris Johnson fel “bargen newydd sy’n cymryd grym yn ôl.”
Mae disgwyl i’r fargen newydd gael ei hystyried gan arweinwyr Ewrop mewn uwchgynhadledd ym Mrwsel heddiw (dydd Iau, Hydref 17), cyn y bydd yn ymddangos gerbron Senedd San Steffan ymhen deuddydd.
‘Dyw’r frwydr ddim ar ben’
Yn ôl Jo Swinson, mae’r frwydr i stopio Brexit “ymhell o fod ar ben”, ac mae’n galw am ail refferendwm sy’n cynnig dau opsiwn: bargen Boris Johnson neu aros yn yr Undeb Ewropeiadd.
“Bydd bargen Boris Johnson yn wael i’n heconomi, yn wael i’n gwasanaethau cyhoeddus, ac yn wael i’n hamgylchedd,” meddai.
“Bydd y dyddiau nesaf yn pennu llwybr i’n gwlad am genedlaethau, a dw i’n fwy penderfynol nag erioed i stopio Brexit.
“Pan fydd y fargen hon yn dod i’r Senedd, fe fyddwn yn cymryd pob cyfle posib i sicrhau bod y cyhoedd yn cael ‘pleidlais y bobol’ ar y fargen Brexit a’r opsiwn o aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.”