Mae nifer y troseddau cyllyll wedi cynyddu 7% yng Nghymru a Lloegr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl adroddiad gan y Swyddfa Ystadega (ONS).
Mae ffigyrau’n dangos fod y nifer o droseddau oedd yn ymwneud â chyllell wedi cynyddu i 44,076 yn ystod 2018-19.
Mae prif weithredwr yr elusen Barnado’s, Jave Khan, wedi ymateb trwy ddweud fod hyn yn “annerbyniol”
“Mae troseddau cyllell yn dal i gymryd cymaint o fywydau ifanc, ac mae’n annerbyniol bod y nifer o droseddau yn uwch nag erioed o’r blaen,” meddai.