Mae Boris Johnson wedi llwyddo i daro bargen gyda thrafodwyr yr Undeb Ewropeaidd ynglŷn a Brexit.
Daw’r cadarnhad yn dilyn dyddiau o drafodaethau dwys yn ninas Brwsel rhwng gweision sifil gwledydd Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, mae’r fargen yn “gytundeb teg a chytbwys ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd a gwledydd Prydain.”
Mae Boris Johnson wedyn yn ei disgrifio fel “bargen newydd sy’n cymryd grym yn ôl”.
“Fe ddylai’r Senedd ddydd Sadwrn sicrhau bod Brexit yn cael ei gwblhau fel y gallwn ni symud ymlaen at flaenoriaethau eraill fel costau byw, y Gwasanaeth Iechyd, troseddau difrifol a’r amgylchedd,” meddai wedyn.