Mae gweithwyr sy’n casglu sbwriel yn nhre’ Caernarfon yn poeni am amodau gwaith, wedi i un o’u cydweithwyr syrthio i mewn i lori ddoe (dydd Llun, Hydref 14).
Ni chafodd y dyn ei anafu, ond mae cydweithwyr yn dweud y “gallai fod wedi cael ei ladd” – oni bai i un ohonyn nhw bwyso botwm a stopio’r lori rhag gwasgu’r sachau y tu mewn.
Mae yna bryderon fod y gweithwyr yn cael eu rhoi dan fwy a mwy o straen, gyda thargedau amser i glirio ardaloedd penodol.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud y bydd yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad.