Mae gweithwyr y Post Brenhinol wedi pleidleisio’n gryf dros streicio – a hynny oherwydd newidiadau i amodau gwaith a thros ansicrwydd swyddi.

Maen nhw’n bwriadu gweithredu’n ddiwydiannol yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig.

Mae 97% o aelodau undeb y Communication Workers Union (CWU) wedi cefnogi’r bwriad i streicio, ,gyda 76% o’r aelodau yn cymryd rhan yn y bleidlais.

Mae’r CWU yn cyhuddo’r Post Brenhinol o beidio â chadw at gytundeb gwaith a gafodd ei lunio y llynedd, yn cyfro nifer o faterion gwaith – o leihau pwysau ar weithwyr, gostwng nifer oriau’r wythnos waith, yn ogystal â rhoi sicrwydd i weithwyr.