Daeth cadarnhad bod cwmni prosesu llaeth yn y gogledd wedi cael ei roi yn nwylo’r gweinyddwyr, gan roi 331 o weithwyr ar y clwt.
Bu pryderon ynghylch dyfodol Tomlinsons Dairies yn Wrecsam dros penwythnos yn dilyn adroddiadau bod ffermwyr wedi cael gwybod na fydd yr hufenfa yn gallu prosesu eu llaeth.
Erbyn hyn, mae cwmni PwC wedi cadarnhau bod Tomlinsons Dairies, sydd hefyd â safleoedd yn ardaloedd Caer a Sir Amwythig, bellach yn ei ddwylo.
Dywed y gweinyddwyr ymhellach mai costau cynyddol a phrisiau isel am gynnyrch llaeth sy’n gyfrifol am gwymp y cwmni, a sefydlwyd 36 o flynyddoedd yn ôl.
“Doedd gan y cyfarwyddwyr ddim dewis ond i drosglwyddo’r cwmni i ddwylo’r gweinyddwyr,” meddai llefarydd.
“Mae ein meddyliau gyda’r gweithwyr hynny sydd wedi cael eu heffeithio gan hyn, ac rydym wedi sicrhau bod yna gyfres o fesurau cefnogaeth ar gael iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn.”
Sefydlu tasglu
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu tasglu arbennig.
“Mae hyn yn siomedig iawn,” meddai llefarydd ar ei rhan. “Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos â Tomlinsons Dairies yn ystod y deunaw mis diwethaf er mwyn ceisio ei helpu i fynd i’r afael â thrafferthion busnes.
“Rydym bellach wedi sefydlu tasglu er mwyn gweithio’n uniongyrchol gyda staff sydd wedi cael eu heffeithio gan hyn.
“Rydym hefyd yn cynnal trafodaethau gyda’r undebau ffermwyr a rhanddeiliaid eraill er mwyn ystyried pa gefnogaeth sydd ei hangen yn ystod y cyfnod anodd hwn.”