Mae Tom Lawrence a’i gyd-chwaraewr pêl-droed, Mason Bennett, wedi osgoi carchar am yfed a gyrru.

Roedd y barnwr Jonathan Taaffee wedi rhybuddio’r chwaraewyr y gallai cyfnod yn y carchar fod yn opsiwn, ond gadawodd y ddau’r cwrt yn ddynion rhydd.

Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r ddau chwaraewr gwblhau 180 awr o waith di-dâl, ac maen nhw wedi eu gwahardd rhag gyrru am ddwy flynedd.

“Rydych yn hynod lwcus i fod yma heddiw,” meddai’r barnwr. “Roeddech wedi bod yn yfed ac yna roeddech mewn gwrthdrawiad a allai fod wedi eich lladd.

“Mae’r ddau ohonoch yn ddynion ifanc, clyfar a thalentog sydd wedi bwrw siom arnoch eich hunain, eich teulu ac ar eich clwb, Derby.”