Mae blwyddyn gyntaf Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn “gyffrous a heriol,” meddai’r Prif Swyddog Gweithredol, James Price.
Mae hi’n flwyddyn ers i Trafnidiaeth Cymru ddod yn gyfrifol am wasanaethau rheilffyrdd a dechrau rhaglen buddsoddi gwerth £5bn.
Yn ôl James Price mae Trafnidiaeth Cymru wedi dechrau “trawsnewid y gwasanaeth”.
“Mae hi wedi bod yn flwyddyn gyntaf gyffrous a heriol ac rydyn ni’n falch ein bod wedi dechrau trawsnewid y gwasanaeth rheilffordd ar gyfer pobol Cymru drwy wireddu ein haddewidion,” meddai.