Mae 41% o bobol ifanc rhwng 11 a 16 oed wedi cymryd rhan mewn gamblo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl canyniadau ymchwil.
Dywed y gwaith gan Brifysgol Caerdydd mai periannau gamblo yw’r modd mwyaf poblogaidd o gamblo yn y grwp oed, gyda chardiau crafu hefyd yn ail agos.
O’r rheiny a ddywedodd eu bod wedi gamblo yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, roedd 16% yn dweud eu bod yn teimlo’n wael ar ôl gwneud.
Yn ôl ymchwilwyr mae angen gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o’r risg sy’n dod gyda gamblo ac fod angen i’r llywodraeth, ysgolion a rhieni gymryd mwy o gyfrifoldeb am y mater.
“Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf mae ymddygiadau risg fel smocio ac yfed wedi disgyn ymysg pobol ifanc,” meddai Dr Graham Moore o’r tim ymchwil.
“Ond rydym yn gweld ymddygiad risg newydd heddiw. Mae ein hymchwil yn awgrymu fod gamblo ymysg pobl ifanc ar ei fyny ac yn broblem iechyd cyhoeddus.”