Mae canlyniadau ymchwil sydd wedi ei ryddhau heddiw (dydd Iau, Hydref 10) yn dangos fod y newidiadau i reolau mewnfudo a fydd yn dod i rym dan lywodraeth Dorïaidd San Steffan ar ôl Brexit, yn debygol o wneud pethau’n anodd i fusnesau twristiaeth.
Ac mae’r effaith ar Gymru, sy’n dibynnu ar y sector am werth £4bn o incwm i’r economi, yn awgrymu fod 53% o fusnesau yn disgwyl y bydd y rheolau’n cael effaith negyddol arnyn nhw.
Mae 73% ohonyn nhw’n credu y bydd y rheolau newydd yn cael effaith negyddol ar eu gallu i ehangu eu busnesau, a’r un ganran o’r farn y bydd y newidiadau’n effeithio ar eu gallu i fod yn gystadleuol.
Mae 54% ohonyn nhw’n dweud fod prinder gweithwyr o wledydd Prydain yn rheswm pam y mae angen parhaus am weithwyr o’r Undeb Ewropeaidd arnyn nhw.