Mae’r Cwrdiaid wedi cael eu “bradychu unwaith eto” yn ôl Aelod Seneddol o Gymru sydd â phrofiadau helaeth o deithio i’r Dwyrain Canol.
Daw sylwadau Ann Clwyd – a fu’n gennad hawliau dynol i Irac cyn y rhyfel yno – wrth i densiynau gynyddu ar y ffin rhwng Twrci a Syria.
Bellach mae’r Unol Daleithiau wedi tynnu eu milwyr o ogledd Syria, ac yn sgil hynny mae Twrci wedi datgan eu hawydd i gipio’r llain yma o dir oddi wrth y Cwrdiaid.
“Unwaith yn rhagor mae’r Cwrdiaid yn cael eu defnyddio…” meddai wrth golwg360.
“I wneud hyn pan mae pethau mor anodd – ac yn enwedig o feddwl mai nhw oedd yn gyfrifol am guro’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) [mae’n warth].
“Wedyn [maen nhw wedi dweud]: ‘Diolch yn fawr, wnawn ni anghofio am hynny’. [Maen nhw’n] cael eu defnyddio dro ar ôl tro ar ôl tro.”
Cynlluniau Twrci
Sefydlu ‘parth diogel’ i gartrefu ffoaduriaid yw nod Twrci, ond mae’r cam eisoes wedi arwain at wrthdaro gyda’r Cwrdiaid – nhw gipiodd y tir oddi wrth y grŵp brawychol, IS.
Mae bron i 3.9 miliwn o Syriaid yn byw yn Nhwrci, gyda’r mwyafrif helaeth o’r rheiny yn ffoaduriaid sydd wedi ffoi’r rhyfel yn eu mamwlad, a thrwy sefydlu’r ‘parth diogel’ gall Twrci leddfu’r straen yma.
Dylai bod Twrci yn cael “mwy o help i drin â ffoaduriaid” ac “mae gennym ni gyd gyfrifoldeb tuag atyn nhw”, meddai Ann Clwyd, ond mae hefyd yn methu a gwadu ei bod wedi trin y Cwrdiaid yn wael.
“Dw i wedi bod ar y ffin yn Nhwrci pan mae Cwrdiaid yn y gorffennol wedi ceisio mynd a chroesi’r ffin – a hynny am wahanol resymau,” meddai, “ac roedd y Twrciaid yn gas iawn iddyn nhw…
“Roedden nhw’n mynd â rhywbeth yn yr iaith Cwrdeg, ac yn eu tynnu nhw oddi arnyn nhw. Eu taflu yn y bin.”