Mae dwy ffrind sydd â dementia wedi cymryd rhan mewn taith gerdded fawr yng Nghaerdydd i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer trin y salwch.
Roedd Lesley Morris o’r Coed Duon a Susan Lewis o Dredegar Newydd ymhlith 2,000 o bobol oedd wedi cymryd rhan yn y daith ym Mharc Biwt ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 5).
Y ddwy ddechreuodd y ras yn swyddogol wrth dorri rhuban ar y llinell gychwyn.
‘Byw bywyd i’r eithaf’
“Mae’n bwysig iawn i ni helpu gwyddonwyr Cymdeithas Alzheimer i ddod o hyd i wellhad ar gyfer dementia – a gwneud ffyliaid ohonon ni ein hunain yn y cyfamser,” meddai Lesley Morris.
“Does dim ots gyda ni ein bod ni’n edrych yn dwp oherwydd mae’n achos gwych a’r hyn sy’n arbennig iawn am y daith gerdded goffa yw ei bod yn dangos pa mor benderfynol yw llawer o bobol i sicrhau bod dementia yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol ac i helpu’r sawl sydd â dementia i fyw bywyd i’r eithaf.”
Llwyddodd y ddwy i godi £4,000 rhyngddyn nhw, wrth iddyn nhw gerdded â ffrind a gofalwr Susan, Wayne Davies.
“Roedden ni am chwarae ein rhan wrth helpu pobol eraill sy’n byw â dementia cyhyd ag y gallwn ni drwy godi ymwybyddiaeth o ddementia a helpu i ariannu gwasanaethau,” meddai Susan Lewis.
“Fe godon ni £4,000 sy’n eithaf da.”
‘Pobol ysbrydoledig’
“Maen nhw’n bobol wirioneddol anhygoel – ysbrydoledig iawn – a does dim stop arnyn nhw,” meddai Wayne Davies.
“Roedd yn hyfryd eu gweld nhw’n cael yr anrhydedd o ddechrau’r ras ar y llinell gychwyn.
“Fe wnaethon nhw osod esiampl arbennig i unrhyw un sy’n byw â dementia.”