Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ger Llanwrtyd ddoe (dydd Sadwrn, Hydref 5).
Fe ddigwyddodd ar ffordd A483 am oddeutu 12.50yp.
Bu farw gyrrwr car Vauxhall VX220 yn y fan a’r lle, ac mae teithiwr yn y car mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Mae lle i gredu bod y car yn cyd-deithio â phedwar cerbyd arall, ac mae’r sawl oedd yn teithio ynddyn nhw’n cynorthwyo’r heddlu â’u hymchwiliad.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu.