Mae Alun Ffred Jones yn dweud ei fod yn “hynod o ddiolchgar” ar ôl iddo gael ei ail-ethol yn gadeirydd Plaid Cymru.

Fe drechodd ei wrthwynebydd, Dr Dewi Evans o 400 o bleidleisiau i 135, gydag 8,500 o aelodau ddim yn bwrw eu pleidlais.

Roedd Dewi Evans yn gobeithio apelio at aelodau ar lawr gwlad, a chodi aelodaeth y blaid i 10,000.

Roedd hefyd wedi bod yn galw am roi’r hawl i Neil McEvoy ddychwelyd i’r blaid.

Mae Alun Ffred Jones yn mynnu nad oedd hynny’n rhan o swydd y cadeirydd, ond mae’n dweud y byddai’r blaid yn barod i wrando pe bai am wneud cais o’r newydd.

“Rwy’n hynod o ddiolchgar i aelodau Plaid Cymru am ymddiried ynof i barhau yn fy rôl fel Cadeirydd,” meddai Alun Ffred Jones ar ei dudalen Twitter.

“Byddaf yn parhau i gydweithio gydag Adam Price ac holl aelodau’r Blaid er mwyn sicrhau buddugoliaeth Plaid yn 2021.

“Gyda’n gilydd, gallwn greu’r Gymru newydd!”

Llongyfarchiadau

Yn dilyn y canlyniad, mae Dewi Evans wedi llongyfarch ei wrthwynebydd.

“Llongyfarchiadau Alun Ffred.

I’r 95% o’r aelodau nad oeddent yn y gynhadledd ac na allent fwrw eu pleidlais, byddaf yn parhau â phrif nod fy ymgyrch, sef i sicrhau eich bod yn chwarae mwy o ran yn y blaid.”