Mae gwraig diplomydd o’r Unol Daleithiau wedi gadael gwledydd Prydain yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Swydd Northampton ar Awst 27.

Cafodd Harry Dunn, beiciwr modur 19 oed o Banbury, ei ladd yn y digwyddiad ar ôl i’w feic modur daro car y ddynes 42 oed ger safle’r awyrlu yn Croughton.

Mae’r ddynes yn cael ei hamau o achosi’r gwrthdrawiad, a dywedodd hi wrth yr heddlu ar y pryd nad oedd hi’n bwriadu gadael y wlad.

Mae’r heddlu’n dilyn camau er mwyn sicrhau bod modd holi’r ddynes mewn perthynas â’r digwyddiad, a bod modd i’r ymchwiliad barhau.

Dydy’r awdurdodau ddim wedi enwi’r ddynes am resymau diplomyddol.