Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i ddiflaniad y ffotograffydd Keith Morris o Aberystwyth wedi dod o hyd i gorff.
Fe ddaethon nhw o hyd i gorff ar traeth Borth, Ynyslas fore heddiw (dydd Sadwrn, Hydref 5).
Dydy’r corff ddim wedi cael ei adnabod yn ffurfiol, ond mae ei deulu wedi cael gwybod.
Does neb wedi ei weld ers amser cinio dydd Iau (Hydref 3).
Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad ac yn awyddus i glywed gan bobol sydd â gwybodaeth.