Mae dyn o India a gafodd ei estraddodi i Lundain wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar amheuaeth o dreisio a llofruddio dynes yn 2009.

Aeth Aman Vyas, 35, gerbron ynadon Uxbridge i wynebu cyhuddiadau o geisio llofruddio, saith achos o dreisio, pum achos o ymosod, un achos o ymosod yn rhywiol, bod ag arf yn ei feddiant mewn lle cyhoeddus a bod ag arf yn ei feddiant.

Mae wedi’i gyhuddo o lofruddio Michelle Samaraweera yn Walthamstow, ar ôl i’w chorff gael ei ddarganfod mewn parc a maes chwarae ar Fai 30, 2009.

Mae lle i gredu bod 17 o droseddau eraill wedi’u cyflawni o fewn wythnos i’w gilydd.

Cafodd y dyn o India ei estraddodi ddoe (dydd Gwener, Hydref 4) ar ôl cael ei arestio yn 2011, ac fe fu’n brwydro yn erbyn yr ymdrechion i ddod â fe i Lundain.

Mae wedi’i gadw yn y ddalfa, ac fe fydd yn mynd gerbron llys yr Old Bailey ddydd Mawrth (Hydref 8).