Doedd gan y cyngor “ddim dewis ond dilyn y broses”, yn ôl arweinydd dros dro Cyngor Caerffili ar ôl i’r Prif Weithredwr gael ei ddiswyddo heb rybudd.
Cafodd Anthony O’Sullivan ei wahardd o’i waith ym mis Mawrth 2013 yn dilyn honiadau am gynnydd cyflog iddo ef a dau brif swyddog arall yn ystod cyfnod o doriadau.
Fe ollyngwyd y cyhuddiadau troseddol yn 2015, ac roedd Anthony O’Sullivan wedi bod ar absenoldeb arbennig o’i waith am dair blynedd.
Ond mewn cyfarfod rhwng cynghorwyr neithiwr (nos Iau, Hydref 3) i drafod adroddiad ar y mater, fe benderfynwyd y dylai’r prif weithredwr gael ei ddiswyddo heb rybudd.
Mae golwg360 yn deall bod Mark O’Sullivan yn bwriadu apelio yn erbyn y penderfyniad.
Diwedd “pennod anodd iawn” i’r cyngor
Yn ôl y Cynghorydd Barbara Jones, ei gobaith yw bod y penderfyniad neithiwr yn “ddiwedd ar bennod anodd iawn i’r cyngor”.
“Cafodd cyfarfod arbennig o’r cyngor ei gynnal heno (nos Iau, Hydref 3) er mwyn dod i benderfyniad ynghylch canlyniad y broses ddisgyblu yn erbyn y Prif Weithredwr,” meddai’r arweinydd dros dro.
“Mae cynghorwyr wedi ystyried canlyniadau’r ymchwiliad yn ofalus – a’r apêl ddilynol – a gwnaed penderfyniad i ddiswyddo Mr O’Sullivan ar unwaith.
“Rydym yn siomedig bod cymaint o amser ac arian wedi eu gwastraffu ar y mater. Ond doedd gennym ni ddim dewis ond dilyn y broses statudol.
“Dylwn hefyd nodi i ni alluogi ymchwiliadau’r heddlu i barhau yn ystod y cyfnod hwn, a ychwanegodd bron i ddwy flynedd a hanner i’r cyfan.
“Angen i’r cyngor symud ymlaen”
Mae undeb UNSAIN Cymru wedi dweud y dylai’r mater “fod wedi cael ei ddatrys flynyddoedd yn ôl”.
“Mae’r staff wedi cael llond bol ac mae angen i’r cyngor symud ymlaen,” meddai trefnydd rhanbarthol yr undeb, Jess Turner.
“Oddi ar 2010, mae toriadau sylweddol, sydd wedi cael eu harwain gan San Steffan, wedi arwain at golli 746 o swyddi gyda Chyngor Caerffili ac eto mae £6m wedi cael ei wario ar y mater yma.”
Mae’r undeb hefyd yn galw am adolygu’r broses o ddelio ag achosion o’r fath fel bod modd eu datrys yn gynt.