Mae’r Aelod Seneddol, Rory Stewart, yn dweud ei fod wedi gadael y Blaid Geidwadol ac yn bwriadu ymddeol o Dŷ’r Cyffredin adeg yr etholiad nesaf.

Roedd yr aelod tros Penrith a’r Border yn un o’r wynebau amlwg yn y ras am arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol yn ddiweddar, cyn i Boris Johnson gael ei ethol yn arweinydd.

Roedd y cyn-Weinidog yn y Cabinet hefyd ymhlith y 21 Aelod Seneddol a gafodd eu gwahardd o grŵp y Ceidwadwyr yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl cefnogi ymgais i atal Brexit heb gytundeb.

“Mae wedi bod yn fraint cael cynrychioli Penrith a’r Border am y deng mlynedd diwethaf, ac felly gyda thristwch y cyhoeddaf fy mod i’n bwriadu camu o’r neilltu yn yr etholiad nesaf, a’m bod i hefyd wedi ymddiswyddo o’r Blaid Geidwadol,” meddai mewn neges ar wefan Twitter.

Mewn ymateb, mae ei gyn-gydweithiwr yn y Cabinet, Amber Rudd, yn dweud bod ei ymadawiad yn “golled” i wleidyddiaeth.