Mae cyn-brif weithredwr Cyngor Caerffili, a gafodd ei wahardd o’i waith chwe blynedd yn ôl, wedi’i ddiswyddo heb rybudd.

Cafodd Anthony O’Sullivan ei wahardd o’i waith ym mis Mawrth 2013 yn dilyn honiadau am godiadau cyflog iddo ef a dau brif swyddog arall yn ystod cyfnod o doriadau.

Roedd cyhuddiadau troseddol wedi’u gollwng yn 2015 ac roedd Anthony O’Sullivan wedi bod ar absenoldeb arbennig am dair blynedd.

Mewn cyfarfod gyda chynghorwyr neithiwr (nos Iau, Hydref 3) i drafod adroddiad ar y mater, fe benderfynwyd y dylai gael ei ddiswyddo heb rybudd.

Wrth ymateb i’r penderfyniad neithiwr dywedodd trefnydd rhanbarthol undeb Unsain Cymru, Jess Turner y dylai’r mater “fod wedi cael ei ddatrys blynyddoedd yn ôl pan oedd Unsain wedi tynnu sylw at y mater. Mae’r staff wedi cael llond bol ac mae angen i’r cyngor symud ymlaen.

“Ers 2010 mae toriadau sylweddol, sydd wedi cael eu harwain gan San Steffan, wedi arwain at golli 746 o swyddi gyda Chyngor Caerffili ac eto mae £6 miliwn wedi cael ei wario ar y mater yma.”

Mae’r undeb yn galw am adolygu’r broses o ddelio gydag achosion o’r fath fel bod modd delio gyda nhw’n gynt.