Fe fydd prif drafodwr Brexit gwledydd Prydain yn cynnal rownd arall o drafodaethau ym Mrwsel heddiw (dydd Gwener, Hydref 4) i weld a yw’n bosib dod i gytundeb yn y dyddiau nesaf.
Daw’r cyfarfod ar ôl i arweinwyr Ewrop feirniadu cynlluniau Brexit diweddaraf Boris Johnson gan ddweud y byddai cael dwy ffin yng Ngogledd Iwerddon yn “annhebygol” o weithio. Mae disgwyl iddo barhau a’r trafodaethau heddiw a dros y penwythnos er mwyn dwyn perswâd ar Frwsel i fod yn hyblyg o ran ei gynlluniau.
Yn y cyfamser mae’r Prif Weinidog yn wynebu her posib arall yn y llys wrth i’w wrthwynebwyr geisio gorfodi estyniad i Erthygl 50.
Mae Boris Johnson wedi pwysleisio y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Hydref 31 – cytundeb neu beidio.
Ond fe allai gael ei orfodi i ymestyn y trafodaethau os yw’r llys yn yr Alban yn dyfarnu bod angen gwneud hynny.