Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyhuddo dyn o Lannau Merswy mewn cysylltiad â chyflenwad o gyffuriau Dosbarth A sy’n werth £75,000 ar y stryd.

Fe gafodd David Daniel Kenwright-Harbourne, 24, ei arestio ar y ffordd rhwng Aberhonddu a Merthyr Tudful ddydd Mercher (Hydref 2) pan ddaeth swyddogion o hyd i werth hanner cilogram o gyffuriau yn ei gar.

Roedd y car yn cynnwys dros 300 dêl o heroin, 400 o grac cocên a llwyth arall o heroin.

Mae’r heddlu yn credu bod y cyffuriau ar eu ffordd i dref Llanelli.

Mae David Janiel Kenwright-Harbourne wedi cael ei gyhuddo o fod ym meddiant cyffuriau Dosbarth A gyda’r bwriad o’i dosbarthu.

Mae disgwyl iddo ymddangos o flaen ei well yn Llys Ynadon Llanelli heddiw (dydd Gwener, Hydref 4).