Fe gafodd dros £1m ei godi yng Nghymru yn dilyn seiclôn trychinebus ar gyfandir Affrica ar ddechrau’r flwyddyn.
Ym mis Mawrth, fe darodd Seiclôn Idai wledydd Mozambique, Malawi a Zimbabwe, gan ladd dros 900 o bobol a gadael tua 3m mewn angen am gymorth dyngarol. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach, fe achosodd Seiclôn Kenneth ragor o ddinistr.
Yn ystod y pedwar mis diwethaf, mae’r 14 elusen sy’n aelodau o’r Pwyllgor Argyfyngau Brys (DEC) wedi bod yn rhan o’r ymateb rhyngwladol i’r trychineb, gan ddarparu cymorth brys fel bwyd, lloches a meddyginiaeth.
Yn ôl y corff elusennol, llwyddwyd i godi cyfanswm o £43m yng ngwledydd Prydain, gyda Chymru yn cyfrannu £1.3m at y swm hwnnw.
‘Cymru ar y llwyfan rhyngwladol’
“Dyma enghraifft wych o Gymru yn chwarae ei rhan ar lwyfan rhyngwladol ac yn dangos yn union sut mae bod yn wlad sy’n gyfrifol yn fyd-eang,” meddai Rachael Cable, Cadeirydd DEC Cymru.
“Bydd yr £1.3m sydd wedi ei godi yn gwneud gwahaniaeth aruthrol i deuluoedd sydd wedi eu heffeithio gan y trychineb erchyll hwn.
“Dylai pob unigolyn sydd wedi cyfrannu at yr apêl – boed hynny wrth roi arian, trefnu bore coffi neu gasglu nawdd a chwblhau her bersonol – deimlo’n hynod o falch o’r hyn y maen nhw wedi ei gyflawni.”