Mae Boris Johnson wedi amlinellu ei gynigion Brexit newydd, gan eu galw’n “adeiladol a rhesymol”.
Roedd y Prif Weinidog yn annerch ffyddloniaid y Blaid Geidwadol ym Manceinion y prynhawn yma (dydd Mercher, Hydref 2)Ei brif neges i Frwsel oedd os nad ydyn nhw’n derbyn ei gynigion newydd, fe fydd gwledydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb ar Hydref 31
Mynnodd na fydd ei fwriad i gael gwared ar y ‘backstop’ dadleuol – a oedd yn rhan o gynllun Brexit Theresa May – “o dan unrhyw amgylchiadau” yn golygu y bydd gwiriadau yn cael eu gosod ar, neu ar bwys y ffin yng Ngogledd Iwerddon.
“Heddiw ym Mrwsel, rydym ni’n cyflwyno’r hyn yr ydw i’n credu sy’n gynigion adeiladol a rhesymol a fydd yn cynnig cyfaddawd i’r ddwy ochr,” meddai.
Trefniant newydd
Yn ôl Boris Johnson, fe fydd ei gynlluniau yn “parchu” yr heddwch yng Ngogledd Iwerddon a Chytundeb Dydd Gwener y Groglith.
Cyfeiriodd at Stormont a’r rhan fydd gan y cynulliad yno wrth gynnal y berthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, yn enwedig wrth amddiffyn y trefniadau rheoleiddio presennol ar gyfer ffermwyr a busnesau ar ddwy ochr y ffin.
Ychwanegodd wedyn: “Ac ar yr un pryd fe fydd yn sicrhau bod y Deyrnas Unedig – yn gyfan gwbl – yn gallu gadael yr Undeb Ewropeaidd, gyda rheolaeth tros ei pholisi masnachu ei hun o’r dechrau.”
“Cyfaddawd”
Mae Boris Johnson yn cydnabod bod ei gynllun yn “gyfaddawd ar ran gwledydd Prydain”, ond mae’n gobeithio y bydd arweinwyr Ewrop yn cyfaddawdu hefyd.
Dywedodd nad oedd eisiau colli cyfle i ffurfio cytundeb “oherwydd yr hyn sy’n drafodaeth dechnegol ynglŷn a beth yw union natur gwiriadau tollau’r dyfodol.”
Gyda hynny, cyfeiriodd at sut y gall y defnydd o dechnoleg – a’r modd y mae hwnnw’n datblygu – sicrhau nad oes yna ffin galed ar ynys Iwerddon.
Mae disgwyl i Boris Johnson gael sgwrs gyda Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd, Jean-Claude Juncker, yn hwyrach heddiw.