Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion wedi damwain ffordd yng Ngheredigion nos Lun yr wythnos hon (Medi 30).

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 8.45yh ar ffordd y B4353 rhwng Bow Street a’r Borth i’r gogledd o Aberystwyth.

Fe adawodd Vauxhall Vectra lliw arian y ffordd a dod i stop ben i waered mewn cae, ac mae tri o bobol y tu mewn i’r cerbyd wedi’u hanafu’n ddifrifol.

Mae’r heddlu yn chwilio am unrhyw un a allai fod wedi gweld y ddamwain yn digwydd, neu unrhywun a oedd yn teithio ar y ffordd tuag adeg y digwyddiad, i gysylltu â nhw.